Elusen Ogwen
Mae Elusen Ogwen yn cefnogi cynlluniau fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau Nyffryn Ogwen. Mae'n gwneud hynny drwy ddosbarthu elw o gynlluniau ynni Ynni Ogwen.
Mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am gefnogaeth o hyd at £3,000 gan Elusen Ogwen i brosiectau fydd yn creu budd i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae’r Elusen yn medru cyfrannu at brosiectau cyfalaf a refeniw sy’n gwneud y canlynol:
- Lleihau tlodi tanwydd
- Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
- Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif
- Arbed ynni
- Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd
- Lleihau gwastraff
- Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau
- Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
- Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol
I ymgeisio mae angen ichi ddarllen y canllawiau yn fanwl a llenwi'r ffurflen gais isod. Rydym yn gwahodd ceisiadau erbyn:
- 31 Mawrth
- 30 Mehefin
- 30 Medi
- 31 Rhagfyr
.Cysylltwch â ni ar elusenogwen@gmail.com os hoffech chi sgwrs neu ragor o wybodaeth, neu os byddwch yn cael trafferth lawrlwytho'r ffurflenni.
Manylion
Cyfeiriad | Cilwern 14 Ffordd Gerlan Bethesda LL57 3ST |
E-bost | E-bost |
Lawrlwythiadau | Canllawiau Ymgeisio (Cymraeg) [size: 373 kB] Canllawiau Ymgeisio (Saesneg) [size: 99 kB] Ffurflen Cais Am Grantiau dros £750 (Dwieithog, Word) [size: 64 kB] Ffurflen Cais Am Grantiau £750 Neu Llai (Dwieithog, Word) [size: 52 kB] |
03/04/24