Blas Lôn Las
Bwyd Lleol, Bwyd Da
Menter sy'n hybu bwyd lleol yn y gymuned yw Blas Lôn Las. Yma yn ein siop gymunedol leol cewch hyd i bob math o lysiau, planhigion a blodau, bara, wyau, llefrith a llawer mwy - gyda phwyslais ar gynnyrch o'r ardal. Mae gennym ni hefyd amryw o gawsiau lleol, bara o'r ardal ac amrywiaeth o gigoedd a chynnyrch ffres gan ffermwyr y cyffiniau, yn ogystal ac ystod eang o nwyddau sych, jam a siytni. Rydan ni ar agor bob dydd, gyda'r caffi hefyd yn darparu llu o ddanteithion cartref.
13/01/21