Kefir Cymru
Mae Kefir Cymru yn fusnes teuluol nodedig yn Y Felinheli.
Diod llefrith sydd wedi’i eplesu ac yn llawn bacteria da ydi kefir. Mae’r perfedd dynol yn system micro o facteria sy’n cael ei hadnabod yn gyffredin fel “bïom perfedd”. O’i adael i fod, bydd y bïom perfedd yn cynnwys cydbwysedd iach o facteria sy’n cefnogi imiwnedd.
Gall yfed kefir llefrith buwch bob dydd helpu i adfer amrywiaeth a chydbwysedd bacterol ym mïom eich perfedd ac mae tystiolaeth gynyddol ar gael sy’n awgrymu bod mwy o amrywiaeth yn y bacteria yn eich bïom yn fwy llesol i’ch iechyd chi.
Mae ein kefir ni’n cael ei wneud gan ddefnyddio grawn byw a llefrith heb fod yn homogenaidd.
Yn Kefir Cymru, rydyn ni’n credu mewn lleihau’r defnydd o blastig felly bydd eich kefir llefrith buwch yn cyrraedd mewn poteli gwydr.
06/07/20