Anelu Aim Higher
Y cymhelliant tu ôl i Anelu yw darparu gweithgareddau diogel, proffesiynol a chyfeillgar yn Eryri Gogledd Cymru. Rydyn ni'n angerddol am ddarparu profiadau o ansawdd i bobl ac rydyn ni'n credu y dylai'r awyr agored gynnig cyfleoedd i bawb wrth barchu'r amgylchedd, cymunedau lleol a'r ardaloedd hyfryd rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddo!
Rydym yn cynnig cyrsiau llywio, cyrsiau sgiliau mynydd a bryn i'r rhai sy'n dymuno bod yn fwy annibynnol ac i'r rhai sy'n anelu at uchder - sgramblo a dringo.
Mae ein sesiynau gwyllt grefft tair awr yn boblogaidd gyda grwpiau bach ac yn ffordd wych o gyfuno gweithgaredd boreol gyda thaith gerdded leol efallai o amgylch Bethesda ac amdan un o’r caffis neu’r tafarndai yn y prynhawn!
Dros gyfnod y gaeaf rydym yn cynnal cyrsiau sgiliau gaeaf yn Eryri sy’n gyrsiau sylfaen perffaith ar gyfer cerddwyr mynydd rheolaidd sydd eisiau gwella eu sgiliau a mentro ar gopaon sydd wedi’u gorchuddio ag eira.
Darperir ar gyfer digwyddiadau elusennol hefyd yn ogystal â thywysydd preifat, diwrnodau pwrpasol a grwpiau ysgol ac ieuenctid.
Perchennog Anelu yw Stephen Jones, sydd gyda cymhwyster Arweinydd Mynydd Haf a Gaeaf, Hyfforddwr Wylltgrefft a Hyfforddwr Dringo Creigiau. Mae'r holl staff sy'n gweithio i'r cwmni yn brofiadol, yn gymwysedig, wedi'u hyswirio ac mae ganddynt gymhwyster Cymorth Cyntaf.
Rydym yn ddarparwr awdurdodedig o dan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgaredd Antur (AALA), sy'n caniatáu inni gynnig gweithgareddau anturus i rai dan 18 oed gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid, grwpiau sgowtiaid a theuluoedd.
Mae enw ein cwmni yn ddwyieithog - Anelu yw'r fersiwn Gymraeg wedi'i chyfuno â'r Saesneg: Aim Higher. Fel cwmni lleol sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru, mae ein holl staff yn lleol ac yn ddwyieithog sy'n dangos ein parodrwydd i fuddsoddi mewn pobl leol sydd yn ei dro yn cyfrannu at eu cymunedau lleol.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i sgwrsio am sut y gallwn drefnu eich antur nesaf yng Ngogledd Cymru.
Manylion Cyswllt
Enw Busnes | Anelu Aim Higher |
Cyfeiriad | Tregarth, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 4NT |
Enw Cyswllt | Stephen Jones |
Amseroedd Agoriadol |
Dydd Llun:
8-6
Dydd Mawrth:
8-6
Dydd Mercher:
8-6
Dydd Iau:
8-6
Dydd Gwener:
8-6
Dydd Sadwrn:
8-5
Dydd Sul:
8-5
|
Dewisiadau Talu | BACS Arian Parod Gwiriwch Cerdyn Credyd / Debyd |
Ffôn | +447877902624 |
Symudol | +447877902624 |
E-bost | E-bost |
Gwefan | Gweld |
Gweld | |
Gweld | |
Gweld |
Map Lleoliad
Oriel


















19/10/22