Cadwyn Ogwen
Ffurfiwyd Cadwyn Ogwen mewn partneriaeth â chynhyrchwyr bwyd a diod y dyffryn i gefnogi ein cymuned a’n heconomi leol yn ystod pandemig Covid-19. Rydym yn falch ei fod wedi datblygu i mewn i rwydwaith clos o gynhyrchwyr sy'n ymfalchïo mewn cydweithio gyda'r nodau o:
-
Darparu cynnyrch o’r safon uchaf sy’n amlygu’r gorau o’r hyn sydd ar gael yn ein hardal leol
-
Annog cwsmeriaid i leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon drwy brynu’n lleol a defnyddio cerbydau cymunedol trydan Partneriaeth Ogwen i ddosbarthu nwyddau
-
Helpu cwsmeriaid i gefnogi busnesau lleol i gryfhau'r economi leol
Mae ein hyb bwyd bellach wedi ei leoli yn Llaethdy Gwyn, Bethesda, ac mae’n bleser cydweithio’n agos gyda Chosyn Cymru wrth iddynt ddatblygu yn eu cartref newydd a symud o nerth i nerth. Mae ein partneriaid eraill yn cynnwys:
-
Cosyn Cymru
-
Cwmni Bwyd Môr Menai
-
Caffi Blas Lôn Las Cafe, Fferm Moelyci
-
Tyddyn Teg Cooperative, Bethel
-
Pandy Farm
-
Tyfu Eryri
-
Siop Ogwen
-
Derw Coffee
-
Amser Al
-
Cegin Karen
-
Inc Pinc
-
Mel Penybonc
-
Bethesda Wholefoods Company
-
Blodeuwedd Botanics
Ers mis Mai 2023 rydym wedi ymuno â Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle, prosiect cynhyrchwyr bwyd gan Yr Orsaf, Penygroes. Rŵan nid yn unig mae cwsmeriaid o Ddyffryn Nantlle yn cael mwynhau cynnyrch gan gynhyrchwyr Cadwyn Ogwen, ond rydym hefyd yn gallu sicrhau bod y cynhyrchwyr canlynol ar gael i gwsmeriaid yn Nyffryn Ogwen:
-
Siop y Glorian, Caernarfon
-
Maggie’s African Twist
-
Tafolog
-
Trigonos
-
Yr Orsaf
-
Blodau’r Mynydd
-
Mel y Maes
Gellir dod o hyd i ni ar-lein trwy’r Open Food Network yn: www.cadwynogwen.cymru
Gall cwsmeriaid archebu erbyn hanner dydd ar ddydd Mawrth i'w danfon ar brynhawn dydd Iau. Mae danfoniad am ddim ar gyfer archebion dros £25, ac mae ein hardal ddosbarthu yn cynnwys: Rhiwlas, Pentir, Glasinfryn, Llandygai, Talybont, Llanllechid, Rachub, Gerlan, Tregarth, Mynydd Llandygai a Bethesda. Fel arall, gall cwsmeriaid ddewis eu harchebion yn rhad ac am ddim o un o’n mannau casglu: Moelyci Tregarth, Llaethdy Gwyn Bethesda, neu Dyddyn Teg Bethel.
Manylion
Cyfeiriad | Llaethdy Gwyn, Bethesda LL57 3BJ |
E-bost | E-bost |
Gwefan | Gweld |
Gweld | |
Gweld |











11/07/23