Project sy'n cael ei ariannu
1. Ymddirieodolaeth Wiwerod Coch Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru wedi derbyn £1,000 ar gyfer Prosiect Bele’r Coed. Mae belaod y coed yn cyfrannu at reoli poblogaeth y wiwer lwyd ac mae’r Ymddiriedolaeth eisoes wedi rhyddhau belaod y coed yn ardal Dyffryn Ogwen gyda’r bwriad hwnnw. Mae gwneud hynny yn torri tir newydd trwy Ewrop. Gyda’r grant bydd yr Ymddiriedolaeth yn prynu camerâu bywyd gwyllt y bydd modd eu benthyca i aelodau’r gymuned er mwyn monitro symudiadau’r belaod yn yr ardal. Y bwriad drwy wneud hyn yw cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd fel y bo pobl yn dod i adnabod bywyd gwyllt yr ardal yn well. Bydd modd gweld symudiadau anifeiliaid eraill megis gwiwerod coch, llwynogod a ffwlbartiaid yn ogystal gan gyfrannu at ein gwybodaeth am symudiadau mamaliaid yn Nyffryn Ogwen. Bydd modd rhannu’r delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol fel y bo eraill yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn dod yn gyfarwydd â bywyd gwyllt Dyffryn Ogwen. I ddysgu rhagor am Brosiect Bele’r Coed ac i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli ewch i wefan pinemarten.net.
2. Grant Bioamrywiaeth Clwb Rygbi Bethesda
Mae Clwb Rygbi Bethesda yn cynnwys 4 hectar o gaeau chwarae wedi'u hamgylchynu gan goed ac wrth ymyl Afon Ogwen. Mae Elusen Ogwen wedi rhoi grant i'r clwb ar gyfer cynyddu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yr ardal trwy blannu oddeutu 400 o goed brodorol a darparu dros 50 o flychau adar ac ystlumod.
3. Grant Lleihau Carbon Clwb Rygbi Bethesda
Mae Elusen Ogwen wedi rhoi grant i'r clwb ar gyfer cynyddu effeithlonrwydd ynni'r llawr gwaelod sy'n cael ei ddefnyddio gan dros 20 o grwpiau chwaraeon a gweithgareddau. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i osod synwyryddion symud a fydd yn diffodd goleuadau pan fydd ystafelloedd yn wag ynghyd â thapiau botwm gwthio i atal dŵr rhag cael ei wastraffu.
4. Ogwen Di-Blastig
Nod Ogwen Di-Plastig yw gweithio gyda busnesau ac ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o effaith defnyddio ac yna taflu plastig. Mae Elusen Ogwen wedi ariannu arbrawf lle bydd siopau tecawe lleol ym Methesda yn defnyddio cynwysyddion compostadwy yn lle rhai plastig.
5. Sied Cyn-filwyr (Veterans' Shed) Gwynedd
Sefydlwyd Sied Cyn-filwyr (Veterans' Shed) Gwynedd ym Methesda ym mis Rhagfyr 2019 ac fe'i hagorwyd yn swyddogol yn 2021. Maen nhw’n darparu amgylchedd diogel ar gyfer dynion a merched sy’n aelodau a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog ac ar gyfer aelodau o’r gymuned, lle gellir uwchgylchu deunyddiau neu eu haddasu at ddibenion gwahanol yn hytrach na'u hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae Elusen Ogwen wedi ariannu’n rhannol prosiect arloesol sy’n defnyddio system solar i gynhesu dŵr glaw wedi’i hidlo i ddarparu cyfleusterau bath a chawod ar y safle.
6. Cylch Meithrin Tregarth
Mae Elusen Ogwen wedi ariannu prosiect yng Nghylch Methrin Tregarth i ehangu eu hardal awyr agored. Mae hwn yn brosiect I blant y Cylch ddysgu am y byd natur – planhigion, blodau ac adar lleol. Mi fydd y plant wrth ei boddau yn dysgu am planu a tyfu bwyd yn y ty gwydr fel tomatos a lettuce. Mi fydd hyn yn helpu iddynt wybod lle mae bwyd yn dod o ac efallai yn y dyfodol helpu iddynt hwythau a’u teulu gwneud hyn yn eu cartrefi. Mi fydd y plant yn meithrin sgililau newydd wrth arddio.
7. Asynnod Eryri
Sefydlwyd Asynnod Eryri (snowdoniadonkeys.com) yn 2013 i hybu iechyd a lles trwy weithio a cherdded gyda mulod yn amgylchedd gogledd Cymru. Cysylltodd yr elusen ag Elusen Ogwen yn 2022 ac rydym yn falch o fod wedi dyfarnu grant a fydd yn caniatáu iddynt osod panel solar a storfa batri ar eu safle yn Nhregarth. Ar hyn o bryd nid oes cyflenwad trydan ar y safle a bydd y panel a’r batri yn helpu i ddarparu golau gyda’r hwyr ac ym misoedd y gaeaf, yn ogystal â thrydan ar gyfer gwresogi a lluniaeth i wirfoddolwyr a chleientiaid.
8. Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Mae Elusen Ogwen wedi ariannu’n rhannol prosiect a fydd yn gwneud gwelliannau yng Ngwarchodfa Natur Aberogwen. Bydd ein cyfraniad at y prosiect yn caniatáu i amrywiaeth o borthwyr adar a blychau nythu gael eu gosod o amgylch y warchodfa.
9. Parc Moch
Coetir ger Bethesda yw Parc Moch. Fe'i defnyddir i helpu i addysgu plant am yr amgylchedd naturiol a chynaliadwyedd, ac i ddarparu gweithgareddau a all helpu oedolion i wella eu hiechyd meddwl. Rydym wedi darparu grant o tua £750 i alluogi gwelliannau i’r lloches yn ogystal â chreu system casglu dŵr glaw.
10. PETHA
Mae Petha, menter newydd yn Nyffryn Ogwen, wedi datblygu cynllun arloesol i alluogi golchi, smwddio, a didoli gwisgoedd ysgol yn ôl maint a'u pasio ymlaen i blant eraill yn yr ardal. Mae Elusen Ogwen wedi darparu arian ar gyfer prynu'r bagiau sydd wedi cael eu defnyddio i ddosbarthu’r gwisgoedd newydd.
11. Bwyd am Byth
Mae Bwyd am Byth CIC wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a chartrefi gofal ers rhai blynyddoedd, yn darparu gweithgareddau garddio ac addysg am dyfu a bwyta bwyd iach. Defnyddiwyd arian gan Elusen Ogwen i helpu i sefydlu sesiynau Bwyd a Byw yn y Gwyllt yn ystod gwyliau'r haf. Roedd y rhain yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ysgol goedwig a garddio i gyfoethogi gweithgareddau cymdeithasol, addysgol ac amgylcheddol i bobl ifanc ardal Bethesda.
26/10/22