Telerau ac Amodau Cadwyn Ogwen

Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i'r holl delerau ac amodau fel y nodir isod.

Beth yw Cadwyn Ogwen?

  • Mae Cadwyn Ogwen yn blatfform archebu ar-lein i dderbyn a phrosesu archebion bwyd a chynhyrchion ar ran cyflenwyr lleol sydd wedi cofrestru gyda ni.
  • Mae Cadwyn Ogwen yn danfon archebion i gwsmeriaid yng nghymunedau Dyffryn Ogwen gan ddefnyddio Carwen, y cerbyd trydan cymunedol.
  • Rheolir y system archebu ar-lein Cadwyn Ogwen gan Bartneriaeth Ogwen.

Pwy yw Partneriaeth Ogwen?

Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy'n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen. Cyfeiriad y Bartneriaeth yw: 26 Stryd Fawr, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 3AE. Ffôn: 01248 602131. E-bost: partneriaeth@ogwen.org. Rhif cwmni: 08430083.

Prisiau Cynnyrch

  • Mae prisiau’r cynnyrch bwyd yn "gyfradd sero TAW" ac nid ydynt yn cynnwys TAW.
  • Nid yw'r prisiau cynnyrch a ddangosir yn cynnwys y ffi danfon.

Taliadau Danfoniadau

  • Fydd y danfoniadau yn cael eu cwblhau drwy ddefnyddio'r cerbyd trydan cymunedol ac mae taliad danfon o £1 fesul archeb ar-lein.

Dulliau Talu

  • Dim ond trwy ein gwefannau (www.ogwen.cymru a www.ogwen.wales) y gall cwsmeriaid dalu am archebion trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.
  • Nid yw’n bosib derbyn archebion dros y ffôn.
  • Gwneir y taliadiau drwy ein tudalennau talu diogel, ‘Foxycart’ ac fe'u prosesir gan daliadau ar-lein ‘Stripe’.
  • Bydd y taliad am eich archeb yn ymddangos ar eich datganiad banc neu gerdyn credyd fel taliad i "Partneriaeth Ogwen".

Proses Archebu

  • Rhaid gosod archebion cyn 12am dydd Sul i sicrhau eu bod yn cael eu danfon i chi ar y dydd Iau canlynol.

Yr Ardal Gyflenwi

  • Dim ond i ardal Dyffryn Ogwen yr ydym yn gallu danfon.
  • Mae hyn yn cynnwys pentrefi Bethesda, Gerlan, Carneddi, Rachub, Llanllechid, Tregarth, Sling, Mynydd Llandygai, Glasinfryn, Pentir, Rhiwlas a Talybont.

Amseroedd Cyflenwi

  • Bydd danfoniadau yn cael eu gwneud ar brynhawn dydd Iau.
  • Os na fyddwch adref i dderbyn eich archeb, bydd yn cael ei adael mewn lle diogel a nodwyd gennych wrth osod eich archeb.

Dychweliadau Archebion

  • Nid ydym yn gallu derbyn dychweliadau ar gyfer eitemau bwyd ffres.
  • Nid yw Cadwyn Ogwen yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd y cynnyrch a ddarperir. Os oes gennych broblem gyda'ch cynnyrch, cysylltwch â'r cyflenwr trwy'r manylion cyswllt ar eu tudalen Cadwyn Ogwen ar y wefan hon.

Hawl i Ganslo

  • Os ydych yn penderfynu canslo eich archeb, gallwch wneud hynny hyd at 12am ar y dydd Sul ar ôl diwrnod eich archeb.
  • Nid ydym yn gallu canslo unrhyw archebion ar ôl y pwynt terfyn hwn.
  • Rhowch wybod i ni ar unwaith drwy e-bost post@ogwen.org, gyda'ch enw, cyfeiriad a rhif cyfeirnod eich archeb.

19/06/20

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors