
Hafan
Nod y wefan hon yw darparu gwybodaeth am fusnesau, sefydliadau, a phethau i'w gwneud yn nyffryn Ogwen.
Mae hyn yn ymestyn o Lyn Ogwen wrth droed Tryfan a'r Glyderau, i lawr i gastell Penrhyn, ac mae'n cwmpasu Bethesda, Tregarth, Mynydd Llandygai, Llanllechid, Talybont, Gerlan, a Rachub.
Codir ffi bach ar fusnesau i ymddangos ar y wefan hon, ond gall prosiectau cymunedol gael tudalen am ddim.
Rydym hefyd yn croesawu cynnwys ar bethau i'w gwneud, a'ch lluniau a'ch fideos.
Ariennir y wefan hon gan y noddwyr a restrir ar waelod y dudalen hon, a'i chynnal gan Bartneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol ym Methesda.
Os oes gennych ymholiadau neu gynnwys, e-bostiwch tom@ogwen.org.
30/05/22