Welsh Slate
Welsh Slate yw cyflenwr arweiniol y byd o lechi o safon uchel i’w defnyddio ar gyfer amrywiaeth heb ei hail o ddyluniadau allanol a mewnol. Mae’r ffaith eu bod nhw’n 500 miliwn o flynyddoedd oed yn eu gwneud nhw’n unigryw ac yn ennyn cydnabyddiaeth eang iddynt fel y llechi naturiol gorau yn y byd.
Welsh Slate yw gwneuthurwyr blaenllaw’r byd am gynhyrchu llechi o safon uchel ar gyfer ystod ddigyffelyb o ddefnyddiau wedi eu dylunio.
Mae nodweddion a harddwch cynhenid y llechen wedi golygu bod penseiri, datblygwyr a dylunwyr mewnol yn ei defnyddio a’i dewis hi’n benodol ac un o ddefnyddiau adnabyddus y llechen yw i greu nwyddau hardd i’r bwrdd.
O’i ffynhonnell yng Ngogledd Cymru, mae pobl o bob cefndir a thrwy’r cenedlaethau, ers cyfnod cynnar y Rhufeiniaid, wedi bod yn defnyddio a chrefftio llechi Cymru.
Mae Chwarel y Penrhyn wedi bod yn ganolbwynt ac wrth galon cynhyrchiad y garreg naturiol yn y Deyrnas Unedig a’i threftadaeth ers y drydedd ganrif ar ddeg ac mae’n waith mawr ers mwy na 400 o flynyddoedd.
Yn ystod y degawdau diwethaf, mae ffynonellau newydd o lechi to wedi cael eu cynhyrchu o bob cwr o’r byd ond dydy’r un ohonynt wedi dod yn agos at gyfateb ag ymddangosiad a pherfformiad llechi Cymru. Yn wir mae Welsh Slate wedi bod yn allforio i'r byd hysbys ers i bobl ddechau symud nwyddau ar longau ac mae eu marchnadoedd allforio yn parhau i dyfu.
Links
Coal Drops Yard, King’s Cross Llundain – Llechi to Cwt-y-Bugail, Llwydlas Tywyll
Y Pagoda Mawr, yr Ardd Fotaneg Frenhinol, Kew, Llundain Llechi to Cwt-y-Bugail, Llwydlas Tywyll
Prince & Princess of Wales Hospice, Glasgow Cladin a llechi to Penrhyn Heather Blu
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Welsh Slate |
Ffôn | +441248600656 |
E-bost | E-bost |
Gwefan | Gweld |
Gweld | |
Gweld |
Map Lleoliad
Oriel




20/01/20