Elusen Ogwen

Mae Elusen Ogwen yn cefnogi cynlluniau fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau Nyffryn Ogwen. Mae'n gwneud hynny drwy ddosbarthu elw o gynlluniau ynni Ynni Ogwen.

Mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am gefnogaeth o hyd at £3,000 gan Elusen Ogwen i brosiectau fydd yn creu budd i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae’r Elusen yn medru cyfrannu at brosiectau cyfalaf a refeniw sy’n gwneud y canlynol:

  • Lleihau tlodi tanwydd
  • Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif
  • Arbed ynni
  • Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd
  • Lleihau gwastraff
  • Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau
  • Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
  • Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol

I ymgeisio mae angen ichi ddarllen y canllawiau yn fanwl a llenwi'r ffurflen gais isod. Rydym yn gwahodd ceisiadau erbyn:

  • 31 Mawrth
  • 30 Mehefin
  • 30 Medi
  • 31 Rhagfyr

.Cysylltwch â ni ar elusenogwen@gmail.com os hoffech chi sgwrs neu ragor o wybodaeth, neu os byddwch yn cael trafferth lawrlwytho'r ffurflenni.

Manylion


10/03/24

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors