Beics Ogwen

Mae Beics Ogwen yn rhan o brosiect Trafnidiaeth Gymunedol Partneriaeth Ogwen ac fe’i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae gennym feiciau trydan a beiciau arferol ar gael i'w llogi ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr fel rhan o'n gwaith i gefnogi trafnidiaeth cynaldwy a thwristiaeth werdd.

Er mwyn bod yn gymhwysol, mae gennym fflyd o feiciau hygyrch a beiciau ochr yn ochr, ac rydym yn rhedeg sesiynau beicio hygyrch rheolaidd yn y Nghlwb Rygbi Bethesda mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwmni Byw'n Iach.

Mae Beics Ogwen hefyd yn cynnig gwasanaeth trin a thrwsio beics - holwch am argaeledd a phrisiau ac rydym yn barod iawn i ddarparu cyngor ar adnabod eich beic ac ar retro-osod moduron trydan, a beiciau yn gyffredinol.

Ein nod gyda Beics Ogwen yw hyrwyddo lles a'r amgylchedd trwy annog mwy o bobl i feicio yn amlach. Rydym yn cydweithio gyda ysgolion a chymdeithasau lleol ac yn awyddus i hyrwyddo beicio ar hyd a lled Dyffryn Ogwen yn ein gwaith i gefnogi twrisitaeth werdd.

Cysylltwch os hoffech chi wirfoddoli neu os hoffech chi roi beiciau, darnau neu offer.

Trefnir digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, sydd i'w gweld ar dudalen Dyffryn Caredig ar y wefan hon, neu ar dudalen Facebook Beics Ogwen.

Cysylltwch

Manylion

Cyfeiriad

Canolfan Cefnfaes, Bethesda

Dewisiadau Talu Apple Pay
BACS
Arian Parod
Cerdyn Credyd / Debyd
Samsung Pay
Ffôn 07492335170
E-bost E-bost
Gwefan Gweld
FaceBook Gweld
Lawrlwythiadau

ebike instructions. tongsheng motor & vlcd3 - english [Maint: 2.9 MB]

Cyfarwyddiadau eBeic - Tongsheng & VLCD3. Cymraeg. [Maint: 2.9 MB]

Ffurflen Gyswllt

(defnyddiol os yw negeseuon e-bost yn bownsio'n ôl)

[llythyren]

Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen

Map Lleoliad

19/08/24

CHWILIO SAFLE

CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors