Cynulliad Hinsawdd cyntaf Dyffryn Ogwen
Roeddwn i ychydig bach yn nerfus am fynychu Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Dyffryn Ogwen gan nad oeddwn i’n rhy siŵr beth i’w ddigwyl. Ond wrth gyrraedd fe ddiflannodd y nerfau yn reit handi gan fod popeth wedi ei drefnu mor dda a fod pawb mor gyfeillgar. Mae 50 aelod cynulliad i gyd, pobl o bob cwr o’r Dyffryn. Roedd yn rhyddhad hefyd deall bod pobl eraill yno wedi rhannu fy nerfusrwydd.
Er fy mod i’n siarad ychydig o Gymraeg, rydw i’n bell o fod yn rhugl, felly ro’n i yn poeni chydig os faswn i’n deall ar y diwrnod gan bod popeth yn bennaf yn Gymraeg. Doedd dim angen poeni gan bod
y gwasanaeth cyfieithu yn arbennig, er bod gofyn canolbwyntio, ond roeddwn i’n medru dilyn popeth.
Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniadau; cyflwyniad gan Yr Athro Gareth Wyn Jones a fu’n siarad am y data a’r gwyddoniaeth tu ôl i’r argyfwng hinsawdd ac yn cynnig ambell ddatrysiad ymarferol, a chyflwyniad hefyd gan Meleri Davies a Huw Davies o Partneriaeth Ogwen a fu’n siarad am brosiectau a gweithgaredd y mudiad, o berchnogaeth cymunedol i gynlluniau trafnidiaeth gwyrdd.
Ar ôl y cyflwyniadau cefndirol ac esboniad am yr hyn oedd i ddod gofynwyd i ni i weithio mewn grwpiau i archwilio ambell gwestiwn yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd gyda hwylusydd yn ein cefnogi ar bob bwrdd.
Roedd yn ddifyr dros ben clywed y gwahanol brofiadau a chefndiroedd y bobl eraill wrth y bwrdd, ac er bod gennym safbwyntiau tra gwahanol ar rai pethau roeddwn i’n gweld y sgyrsiau yn ddifyr ac yn gwneud i rhywun feddwl. Roedd yn amlwg bod yna sawl person gwybodus a phrofiadol iawn yno, ond roeddwn i dal yn teimlo fel bod fy marn i yn cael ei werthfawrogi ac roeddwn i’n gadael yn teimlo’n bositif ac wedi fy ysbrydoli.
Dwi wir yn edrych ymlaen at y sesiwn nesaf er mwyn dysgu mwy am yr aelodau eraill. Codwyd nifer o bynciau difyr ac amrywiol gan y gwahanol grwpiau yn ystod y dydd felly bydd yn ddifyr gweld os
fedrwn ni ddatblygu’r rhain wrth i’r sesiynau barhau. Mae mynychu’r cynulliad hefyd wedi rhoi brwdfrydedd newydd i ni i feddwl am ffyrdd i leihau fy ôl-troed carbon personol. Ar hyn o bryd rydw i’n benthyg beic trydan gan Beics Ogwen ac yn rhoi cynnig ar ei ddefnyddio ar gyfer gwneud negas gyda’r gobaith o wneud llai o deithiau yn y car, a dwi wir wedi fy synnu pa mor hawdd ydi’r beic i’w ddefnyddio. Mi fyddwn yn ei argymell i unrhyw un
sy’n meddwl am roi tro arni.
Rydw i mor falch mod i wedi cael cyfle i fynychu’r sesiynau hyn ac yn credu y medrwn, gyda’n gilydd, gymryd camau i’r cyfeiriad cywir. Os fasach chi yn hoffi clywed mwy am Gynulliadau Cymunedol GwyrddNi ar yr Hinsawdd a dilyn y datblygiadau diweddaraf o’r cynulliad yma yn Nyffryn Ogwen ewch i www.gwyrddni.cymru ac fe allwch hefyd ddilyn GwyrddNi ar Facebook, Twitter ac Instagram.
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Dee Doddington Mizen sydd yn byw ym Maes Bleddyn ger Rachub gyda’i mhab wyth oed a’i phartner. Mae’n rhannu ei hamser rhwng gweithio fel arlunydd sy’n defnyddio deunydd cynaliadwy ac eco-gyfeillgar a gweithio ar gyfer cwmni adeiladu lleol.
Mae’n mwynhau garddio ac yn treulio llawer o’i hamser rhydd yn rhandiroedd Gardd Ffrancon fel rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd yno ac yn mwynhau cerdded a beicio yn yr ardal leol. Er nad ydi’n dod o’r rhan yma o’r byd yn wreiddiol mae’n byw yma ers blynyddoedd ac wrth ei bodd gyda’i lleoliad a’r ymdeimlad o gymuned sydd ym Methesda, ac yn falch o alw’r lle hwn yn gartref.
Manylion


01/02/23