Bethesda Ddoe a Heddiw

Mae Clwb Camera Dyffryn Ogwen yn eich gwahodd i 'ddiweddaru' hen luniau o Fethesda!

Rydym wedi dewis dros 30 o luniau o Stryd Fawr Bethesda, yn dyddio o 1813 hyd at y 1990au. Maent yn dangos golygfeydd o'r dref yr hoffem i chi eu diweddaru. Cynrychiolir pob un o'r lluniau gan bin ar y map isod. Wrth glicio ar y lluniau isod, neu ar y pin perthnasol ar y map, gallwch weld y lleoliad yn fwy manwl, gan gynnwys disgrifiad o ble y tynnwyd y llun. Wrth i'r map gael ei chwyddo bydd mwy o binnau'n dod i'r golwg.

Hoffem i chi geisio diweddaru'r lluniau trwy fynd i un neu fwy o'r lleoliadau a chymryd llun o'r un safle, fel y gallwn weld sut mae Bethesda wedi newid dros y blynyddoedd.

Bydd pob llun a gyflwynir yn cael ei ddangos ar y dudalen we hon tan ddiwedd Mehefin 2021.

SIOE LUNIAU CYHOEDDUS

Bydd yr holl hen luniau a gyflwynwyd yn cael eu taflunio ar wal yng Nherddi Tan Tŵr (Annies Ogwen) ddydd Gwener 16 Ebrill a dydd Sadwrn 17 Ebrill. Gweler Facebook am ragor o fanylion, ond cofiwch gadw pellter cymdeithasol (2 fedr ar wahan) a gwisgo mwgwd. Diolch yn fawr!

TAITH FEIC TRWY FETHESDA

Ymunwch â Dei Fôn Williams wrth iddo ddathlu daucanmlwyddiant y dref trwy fynd ar daith feic trwy Fethesda ar ddiwrnod braf o wanwyn - Diolch Dei!

NODYN PWYSIG

Mae'r hawlfraint ar gyfer pob llun ar y wefan yn eiddo i'r awdur.

Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn: Alan Petch, André Lomozik, Caleb Rhys, Dafydd Roberts, Dafydd Williams, Emyr Roberts, Helen Evans, Heulwen & Emyr Roberts, Joy Ostle, Mair Jones, Martin Morley, Nigel & Sian Beidas, Nick Pipe, Nikola Gale, Paul Tye, Rhys Parry, Sian Turner, Tom Simone, Vicki Parry, William Parry.

Map Lleoliad

06/07/21

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors