Celfwaith Cymunedol
Roedd y prosiect hwn yn seiliedig ar hen draddodiad llechi cerfiedig Dyffryn Ogwen. Comisiynwyd Ann Catrin Evans, Siân Owen a Dave Stephens i gynnal cyfes o weithdai a dosbarthiadau mestr cymunedol er mwyn dylunio celfwaith cymunedol wedi'i lunio o lechi'r ardal.
Roedd gofod wedi'i adnabod yng ngardd Tan Twr, un o erddi cymunedol Bethesda, a fyddai'n cynnig ei hun fel cartref perffaith ar gyfer celfwaith yn seiliedig ar bentan traddodiadol.
Cafwyd cyflwyniad i lechi cerfiedig a hanes y grefft draddodiadol gan Siân Owen. Defnyddwyd nifer o enghreifftiau o lyfr Gwenno Caffell ac o'r llechi cerfiedig sydd eisoes wedi'u darganfod a'u dadansoddi. Roedd y proses dylunio yn cynnwys ymchwilio i a defnyddio hen dechnnegau llechi cerfiedig yr ardal. Defnyddiodd Ann Catrin Evans ddetholiad o offer hen a chyfoes ar gyfer cerfio i'r llechi. Canolbwyntiodd Dave Stephen ar y llechen ei hun a rhoddodd gyflwyniad ar sut cafodd y llechi eu ffurfio a pham bod llechi Dyffryn Ogwen a Gogledd Cymru yn cael ei ystyried fel deunydd o'r ansawdd mwyaf safonol.
Map Lleoliad
06/07/21