Iaith Pesda

Fel gyda phob cymuned Gymraeg, mae gan Fethesda set unigryw o ddywediadau a geiriau a ddefnyddir yn gyffredin gan ein cymuned. Rydym yn ffodus yn Nyffryn Ogwen bod llawer o waith wedi ei wneud gan wahanol bobl i ddal a chadw’r rhain ar gyfer y dyfodol (gweler y dolenni ar ddiwedd yr erthygl am ragor o wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael).

I ddathlu rhai o’r geiriau a’r ymadroddion hyn, mae Partneriaeth Ogwen wedi cydweithio â Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau i ddod â nhw i’n Stryd Fawr. Ar ôl paratoi rhestr o eiriau ac idiomau Bethesda gyda’r arbenigwraig leol Mary Jones, aeth criw o ddisgyblion Ysgol Penybryn ati i ddylunio llechi yn cynnwys y geiriau ynghyd â dyluniadau a ysbrydolwyd gan draddodiad cerfio llechi Dyffryn Ogwen. Helpodd y crefftwr lleol Alun Davies (Amser Al) y grŵp i ddefnyddio torrwr laser y Gofod Gwneud Canolfan Cefnfaes i ddod â’u gweledigaeth yn fyw.

Mae sawl busnes lleol wedi cytuno’n garedig i arddangos y llechi yn eu ffenestri drwy’r haf. Mae'r llechi bellach i'w gweld mewn ffenestri i fyny ac i lawr y Stryd Fawr. Dilynwch y map isod i ddod o hyd iddyn nhw i gyd. Bu myfyrwyr Ysgol Penybryn hefyd yn helpu i greu rhai darluniau i ddangos ystyr y geiriau. Faint o'r geiriau hyn ydych chi'n eu hadnabod? A oes unrhyw rai rydych chi'n dal i'w defnyddio'n rheolaidd?

Hoffai Partneriaeth Ogwen ddiolch i Mary Jones, Alun Davies, Ysgol Penybryn a’r holl siopau lleol sydd wedi cytuno i gymryd rhan. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau am ariannu’r prosiect.

Mwy o adnoddau am Iaith Pesda:

Am lawer mwy o enghreifftiau o’r amrywiaeth gyfoethog o eiriau ac ymadroddion sy’n cael eu defnyddio yn Nyffryn Ogwen, cymerwch olwg ar golofn fisol Mary Jones yn Llais Ogwan – rhifynnau blaenorol ar gael yma: http://www.llaisogwan.com/

Dyma hefyd ddarlith hynod ddiddorol a draddodwyd gan J Elwyn Hughes ym mis Mai 2022 fel rhan o ddigwyddiad coffi prynhawn Cyfaill Cymunedol sydd ar gael ar YouTube.

Address

Partneriaeth Ogwen

26 Stryd Fawr

Bethesda LL57 3AE

Email Email
FaceBook View
Downloads

Map a Diffiniadau o'r Llechi iaith Pesda [size: 8.8 MB]

Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda
Iaith Pesda

17/06/24

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors