Hanes Bethesda
Llun: Pentref Bethesda yn 1890 yn dangos gwahanol raniadau’r pentref yn dilyn datblygiadau’r cyfnod, Llais Ogwen.
Mae Bethesda yng Ngogledd Cymru yn dathlu daucanmlwyddiant eleni (2020). Mae'r erthygl hon gan yr hanesydd John Llywelyn yn edrych ar rywfaint o'i hanes cyfoethog dros y ddau gan mlynedd diwethaf. Gellir gweld yr erthygl wreiddiol yma, ynghyd â llawer mwy am hanes Dyffryn Ogwen, ynghyd â mapiau a ffotograffau ychwanegol.
Fe'i cyhoeddwyd hefyd yn Llais Ogwen, papur misol Cymraeg ar gyfer Dyffryn Ogwen.
*
Hen dro ffadiracs fod pawb wedi anghofio fod ein pentra bach ni yn dathlu ei ddaucanmlwyddiant eleni! Dyma bill bach i geisio llenwi’r bwlch ac i godi ymwybyddiaeth o’r ffasiwn ben blwydd.
Mae cynllun pob pentref yn hynod o debyg i jig-so, gyda phob rhan yn plethu i’w gilydd i greu’r cyfanwaith cyfan, neu, fel sy’n digwydd yn aml, mae darn gwaf yn cael ei lenwi gan ddarn newydd bob yn dipyn gan newid ychydig ar y patrwm gwreiddiol. Ac nid yw datblygiad pentref Bethesda felly yn ystod dau gan mlynedd cwta ei fodolaeth yn eithriad i batrymau datblygu y rhelyw o bentrefi Cymru. Ym Methesda, y deinamo a oedd yn rheoli datblygiad y pentref drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd esblygiad chwarel y Penrhyn i fod yn un o chwareli llechi mwyaf y byd. Sgil effaith hynny wrth gwrs oedd gofyn cynyddol am lety i’w gweithlu.
Pentrefi DO Bethesda 1822 crop
Cyn bod pentref ym Methesda yr oedd dau lwybr yn ymestyn drwy blwyf Llanllechid. Roedd y cyntaf yn cyrraedd o Lanllechid i Carneddi ac yn gwasanaethu nifer o dyddynnod ar lawr y dyffryn gan gynnwys Penybryn, Garneddwen, Pant y Ffrydlas ac Abercaseg. Ymestynnai’r ail lwybr o Goetmor i Gochwillan gan ymuno â’r cyntaf ym Mhenybryn. Cynigiai’r ddau lwybr fframwaith i ddatblygiadau cynharaf egin bentref y dyfodol, a gellir priodoli patrwm llinynnol y tai cyntaf o Lidiart y Gweunydd hyd at Gapel Carneddi i gyfnod cyn adeiladu’r capel yn 1816.
Y datblygiad sylfaenol i sefydlu’r pentref oedd adeiladu ffordd Bost Telford yn 1820 a olygodd agor mynediad i lain mawr o dir rhwng Pont y Tŵr a Phont y Pandy, gyda’r rhan helaethaf ohono ym meddiant annibynnol stad y Penrhyn. Byddai yn dipyn o sioc i Thomas Telford pe sylweddolai mai yn ei sgil o y sylfaenwyd y pentref. Meddyliwch am funud petai’r pentref wedi’i enwi’n Telfordsville yn hytrach na Bethesda yng ngwlad Cannan yn sgil capel mawr yr Annibynwyr! Ychydig flynyddoedd yn gynharach yn 1794 yr oedd Owen Ellis, ffermwr cefnog a phrydleswr fferm fawr Cefnfaes i’r dwyrain o Dalybont, wedi prynu tyddyn Cilfoden Isaf am £735 heb fawr sylweddoli bryd hynny mai’r llain serth a chreigiog hwn a fyddai’n datblygu yn gnewyllyn canolog y pentref o 1820 ymlaen. Estynnai’r tir o Ffordd Carneddi yn y dwyrain i lan Afon Ogwen yn y gorllewin ac roedd wedi ei gywasgu rhwng tiroedd stad Coetmor i’r gogledd a stad y Penrhyn i’r de. Datblygwyd y cnewyllyn mewn dwy ran gyda rhan y gorllewin yn creu’r stryd fawr yn dilyn heol Telford a rhan y dwyrain yn arwain i adeiladu nifer o resi tai gweithiol unffurf a gwael eu hadeiladwaith yn ardal Brynteg a Carneddi. Rhyngddynt, yn fwgan diwydiannol ymwthiol, tyfodd chwarel lechi Pantdreiniog gyda’i domennydd rwbel ansefydlog a’i dwll dwfn bygythiol yn llethu datblygu’r cnewyllyn yn ganolbwynt dinesig unol. Datblygodd y Stryd Fawr yn brif ganolfan marchnata’r pentref ac ar ei chyrion tyfodd stad ddiwydiannol fechan yng Nghae Star. Ar yr hen lwybr o Goetmor datblygodd stryd o dai gweithiol Bryntirion ac yng nghysgod y stryd fawr datblygodd terasau unffurf Penygraig, Twr a Glanrafon, a phob datblygiad wedi ei werthu neu ei lesu gan deulu Ellisiaid y Cefnfaes.
Yn 1854 drwy ddeddf gwlad awdurdodwyd Deddf Gwelliant Bethesda ac etholwyd nifer o barchusion yr ardal i ffurfio Comisiynwyr Gwelliant Bethesda, math o egin gyngor gwarcheidiol i’r pentref, dan gadeiryddiaeth Arglwydd Penrhyn. Cyfrannodd ef £1000 tuag at wella gwasanaethau’r pentref a chyflwynwyd cynlluniau ar gyfer cyflenwi dŵr yfed, carthffosiaeth, nwy a goleuadau i’r pentref. Golygodd y ddeddf hefyd gyflwyno gwell safonau adeiladu tai gan ddwyn sylw at ddiffygion y terasau salw ar dir stad y Cefnfaes. Yn cyfateb fwy neu lai i’r safonau newydd adeiladwyd rhesdai urddasol Ogwen Teras i addurno mynediad y de i’r pentref gan ei gynllunio ar dro i ymestyn rhwng capel Bethesda a gwesty’r Douglas Arms. Datblygiad ar dir y Penrhyn ydoedd hwn a rhan ganolog ohono oedd capel mawreddog Jerusalem a godwyd yn 1841 ar un ochr y ffordd ac eglwys Glanogwen a godwyd yn 1856. Datblygiad arwyddocaol arall sy’n cyfateb i’r cyfnod hwn oedd i stad y Penrhyn brynu hen stad Coetmor yn 1855 a thrwy hynny ganiatáu i rym mwyaf pwerus yr ardal amgylchynu’r cnewyllyn annibynnol gwreiddiol. O hyn allan roedd holl ddatblygiadau mwyaf arwyddocaol gweddill y ganrif i ddigwydd drwy nawdd stad y Penrhyn.
Hen fferm Penybryn oedd canolbwynt y datblygiad nesaf sy’n perthyn i gyfnod cythryblus yn hanes Dyffryn Ogwen. Yn 1864 yr oedd cysylltiadau diwydiannol yn chwarel y Penrhyn yn bur fregus ac arweiniodd hyn at streic a barhaodd am wythnos ym mis Awst y flwyddyn honno. Efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd i lythyr ymddangos yn y wasg yn y mis Rhagfyr canlynol yn canmol haelioni Barwn Cyntaf y Penrhyn yn adeiladu tai o safon arbennig ar gyfer trigolion y pentref. Cyfeirio mae’r llythyr at y datblygiad uchelgeisiol a gynlluniwyd yn driongl o dai pâr a gerddi sylweddol yn gysylltiedig â hwy a amgylchynodd yr hen fferm ar naill law allt Penybryn ac yn Garneddwen a Ffordd Pantglas. Yr oedd cadernid a ffresni’r tai yn gyferbyniad goleuedig i foelni llwyd Brynteg a’i gyffiniau.
Y cam nesaf yn natblygiad y pentref oedd cynllunio harddach mynediad i begwn gogledd y stryd fawr. Y symbyliad allweddol oedd adeiladu gorsaf drenau sylweddol ei maint yn 1884 yn derminws i reilffordd genedlaethol yr LNWR ar domennydd rwbel hen chwarel lechi Llety’r Adar. Fel ar ddechrau’r ganrif pan gysylltwyd Bethesda gyntaf gyda phriffordd genedlaethol, felly hefyd ar ddiwedd y ganrif unwyd y pentref gyda chyfundrefn drafnidiaeth oedd yr un mor allweddol bwysig i’w ffyniant economaidd ag i’w delwedd gymdeithasol, cysylltiad seicolegol bwysig yr oedd aelodau’r Bwrdd Lleol wedi brwydro i’w wireddu ers nifer o flynyddoedd. Arweiniodd hyn at adeiladu nifer o derasau tai newydd ar naill ochr y briffordd ac i’r teras mwyaf mawreddog ohonynt oll, Penrhyn Teras, a fyddai’n gyflwyniad teilwng i’r Stryd Fawr fel ei gymar tebyg yn Ogwen Teras ym mhen arall y pentref. Ar derfyn y ganrif digwyddodd un newid gweinyddol yn hanes y pentref pan sefydlwyd Cyngor Dinesig Bethesda yn 1895 i gymryd lle’r hen Fwrdd Lleol. Y corff hwn felly a awdurdododd ddatblygiadau pwysicaf y ganrif ganlynol.
Un o ddatblygiadau cynharaf y ganrif oedd agor llwybr newydd i redeg o’r ffordd bost ger Penrhyn Teras i Goetmor a chyfeiriad Hen Barc yn y dwyrain. Lon Newydd Coetmor oedd y fynedfa a rhoddai hwylustod ar y cyntaf i gyrraedd yr Ysgol Sir a chartref W. J. Parry yn Coetmor Hallac erbyn tri a phedwar degau’r ganrif hwylusodd ddatblygiad stadau tai preifat a chymdeithasol yng Nghoetmor a Maes Coetmor. Datblygiadau tebyg a gafwyd ar orlifdir afonydd Caseg a Ffrydlas ym mhen deheuol y pentref, sef yn y rhannau hynny o’r ardal a fyddai, o safbwynt daearyddol, yn llawer mwy addas i leoliad y pentref oni bai am i resymau cymdeithasol ganoli’r datblygiad ar safle annibynnol, ond ffisegol anoddach, stad y Cefnfaes. Ar y llwyfandir diddymwyd caeau hen dyddynnod Garneddwen, Pant Ffrydlas ac Abercaseg ac adeiladwyd arnynt stadau cyngor Adwy’r Nant yn y tridegau ac yn ddiweddarach yn y pumdegau stadau sylweddol eu maint yn Glanffrydlas a Glanogwen.
Datblygiad pwysicaf y ganrif ddiwethaf bur debyg oedd penderfyniad y Swyddfa Gymreig bryd hynny i ariannu symud chwarel Pantdreiniog yn ei chyfanrwydd o ganol y pentref, Cwblhawyd y cynllun yn ystod y chwedegau ac er mor ddymunol oedd cael gwared ar hagrwch afler y tomennydd a pheryglon y twll, eto gadawodd y glanhau ddiffeithwch bron yr un mor afler â’i ragflaenydd diwydiannol yng nghanol y pentref. Tasg cynllunwyr yr unfed ganrif at hugain fydd adnewyddu canolbwynt mwy addas i bentref Bethesda na’r borfa ddiffaith sydd ar y safle dyddiau yma.
Er i Fethesda fel y mae ddod i fodolaeth yn rhinwedd bwriad yr Ymerodraeth Brydeinig i gryfhau ei gafael ar ei hymerodraeth drwy gryfhau ei chyswllt ag Iwerddon, ac i’r pentref ddatblygu i raddau wedi hynny yn sgil caethwasanaeth, un o benodau mwyaf afiach yr Ymerodraeth honno, mae’n destun balchder mai pentref a dyffryn Cymraeg a Chymreig yw Bethesda ddau gan mlynedd wedi ei sefydlu. Mae cyfrifoldeb arnom ni, holl drigolion y presennol o bedwar ban byd i achub ar bob cyfle i ddiogelu ein hiaith, ein diwylliant a’n hamgylchedd ac i sicrhau ein bod ni yn gyfrifol am ddatblygu Bethesda a Dyffryn Ogwen er ein mwyn ni ein hunain o hyn allan.
Beth am gychwyn gwneud hynny drwy ddathlu daucanmlwyddiant Bethesda cyn diwedd 2020?!
Ffynonellau
Dafydd Fôn Williams. ‘Dau Deulu Lwcus’. Darlith i Gymdeithas Hanes Rachub, Tachwedd, 2015.
Elwyn Hughes. Cyfres Pwy sy’n Cofio. Llais Ogwan 2014-16.
Map Lleoliad
04/09/20