Celf Llechen / Slate Art
Efallai ei fod yn syndod, ond yma yn Celf Llechen, rydym yn creu pethau gyda llechi!
Mae gennym ymagwedd gyfoes a hwyliog tuag at weithio gyda deunydd a ystyrir yn eithaf cyffredin.
Mae'r holl gynhyrch yn unigryw.
Yn wir, ni all dau ddarn fod yr un fath, gan fod gan pob darn o graig ei gweadau, lliwiau a nodweddion ei hun, a byddwn wedyn yn ei 'weithio gyda llaw.
Mae mwyafrif o'r llechi a defnyddwyd yn Gymreig, ond weithiau rydym yn defnyddio ffynonellau eraill ar gyfer nodweddion cyferbyniol. Mae'r ffynhonnell bob amser wedi'i nodi'n glir.
Rydym wedi ein lleoli ym Methesda, cartref llechi Cymreig.
Rydym yn defnyddio dulliau traddodiadol o 'weithio gyda llaw i greu gwrthrychau creadigol ar gyfer y cartref a'r gweithle.
Daw ein hysbrydoliaeth o'r byd o'n hamgylch, tirwedd hardd Eryri a gweadau a lliwiau'r deunyddiau a ddefnyddiwn.
Rydym yn parchu ein hamgylchedd ac yn gweithredu polisi lleiafswm o effaith a gwastraff.
Manylion Cyswllt
Enw Busnes | Celf Llechen / Slate Art |
Enw Cyswllt | Dave Stephen |
Ffôn | +441286672472 |
E-bost | E-bost |
Gwefan | Gweld |
Gweld |
Oriel



17/11/19