Gweinydd Renee Taylor

Beth sy'n digwydd, mewn ystyr ymarferol, pan fydd rhywun yn marw?

Yn ymarferol, mae angen rhoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth ac yna mae angen cofrestru'r farwolaeth yn y swyddfa gofrestru ar gyfer y lleoliad lle digwyddodd y farwolaeth. Ar ôl gwneud hynny, mae modd mynd ymlaen i wneud y trefniadau claddu neu amlosgi. Os yw'r farwolaeth yn digwydd mewn ysbyty, yna bydd y staff yno’n helpu gyda'r Dystysgrif Feddygol. Os yw'n digwydd gartref ac mae eich meddyg teulu wedi bod yn ymwneud â’r gofal am yr ymadawedig, yna efallai y bydd y meddyg yn gallu darparu’r Dystysgrif. Os nad, gallai’r achos gael ei gyfeirio at y Crwner.

Mewn perthynas â’r gwaith papur hwnnw, bydd angen i'r teulu benderfynu pa fath o angladd a dathliad o fywyd y person y maen nhw ei eisiau. Mae trefnwr angladdau’n gallu helpu gyda hynny, gwneud trefniadau i baratoi'r corff, darparu'r arch ac archebu’r lleoliad, trefnu i amlosgi neu gladdu ... neu mae angladd DIY yn berffaith bosibl. Gall teuluoedd wneud trefniadau yn uniongyrchol gyda chladdfa ac amlosgfa, trefnu gwasanaeth, os ydynt am gael un, a hyd yn oed i gludo'r corff eu hunain. Gallaf ddeall pam nad yw pobl mewn sefyllfa i wneud trefniadau o'r fath pan fyddant mewn profedigaeth. Ond mae'n digwydd fwy a mwy y dyddiau hyn.

Beth yw'r gwahanol fathau o angladd?

Os ydych yn berson crefyddol, mae'n debygol y byddwch yn mynd at eich offeiriad lleol, ficer, mynach Bwdhaidd ... i ofyn iddynt eich helpu gyda'r gwasanaeth hwnnw.

Byddwch hefyd yn cael pobl sydd eisiau dathliad dyneiddiol, ac nid yw eu gwasanaethau nhw’n grefyddol.

Ar gyfer pobl fel fi sy’n weinydd sifil, rydym yn adlewyrchu credoau'r ymadawedig a'r teulu; felly, er nad ydw i’n berson crefyddol, rwy'n ddigon hapus i gynnwys gweddi'r Arglwydd mewn gwasanaeth, er enghraifft.

Beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth?

Rydym yn treulio cwpwl o oriau gyda'r teulu, yn gofyn iddyn nhw am fywyd y sawl a fu farw.

Yn aml, mae pobl eisiau adrodd straeon doniol, neu sôn am bethau oedd yn gwneud y person yn unigryw.

Mae hyn yn rhoi cyfle i ni feddwl o ddifrif am y pethau rydyn ni'n eu gwerthfawrogi amdanyn nhw, pam maen nhw'n bwysig i ni, a beth rydyn ni am ei gofio.

Bydd gweinydd yn casglu straeon, ac yn ceisio deall yr emosiynau o amgylch y person, sut gymeriad oedden nhw a sut roedden nhw'n effeithio ar y bobl o'u cwmpas.

Yna bydd y manylion hyn yn dod yn foliant neu’n deyrnged ar gyfer y gwasanaeth, a bydd gofyn cyfathrebu yn ôl ac ymlaen gyda’r teulu, os ydyn nhw’n fodlon â hynny, i sicrhau ei fod yn gywir.

Byddwn hefyd yn trafod ac yn awgrymu cerddoriaeth neu farddoniaeth y bydd y teulu ei heisiau.

Sut mae pobl yn archebu eich gwasanaethau?

Gall pobl gysylltu â mi yn uniongyrchol, neu fel arall gall y trefnwyr angladdau gysylltu. Maen nhw’n dda iawn am ddewis gweinydd gwasanaeth sy’n gweddu i’r teulu a'r rhai sydd mewn galar.

Beth wnaeth i chi ddewis y proffesiwn hwn?

Rhan o’r rheswm oedd mynd trwy’r broses pan fu farw fy rhieni a siarad gyda’r caplan a ofalodd am eu hangladdau.

Ysgrifennais y moliant ar gyfer y ddau, ac roedd hyn yn ddiweddglo da oedd yn bwysig i mi.

Rwyf hefyd yn berson sy’n mwynhau ymwneud â phobl ac rwy’n ymddiddori yn y ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn mwynhau gwneud y cysylltiad hwnnw gyda nhw.

Manylion Cyswllt

Cyfeiriad

Phone  +44 7367771977

email   renee@renee-taylor.co.uk

facebook    @reneetaylorfuneralcelebrant

Enw Cyswllt Renee Taylor
Ffôn +44 7367771977
E-bost E-bost
FaceBook Gweld

18/11/19

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors