Cosyn Cymru

Mae Cosyn Cymru yn llaethdy arobryn yng Ngogledd Cymru sy'n arbenigo mewn caws ac iogwrt llefrith dafad heb ei basteureiddio.

Wedi’i hysbrydoli gan amrywiol gwneuthurwyr caws meistrolgar, mae Carrie Rimes yn gwneud cynhyrchion llefrith dafad â llaw mewn sypiau bychain gyda chynhwysion naturiol.

Nod Carrie yw gwneud caws ac iogwrt sy'n dod â rhinweddau gorau'r llaeth allan. Mae hi'n frwd dros addasu i naws tymhorol - mae angen agwedd unigol ar bob swp. Mae angen amynedd a dycnwch i sicrhau bod y cawsiau'n aeddfedu'n hapus ac yn llwyddiannus. Mae’r rhain yn sgiliau gydol oes y dechreuodd Carrie eu harchwilio fel merch yn arbrofi gyda gwneud caws ar y fferm deuluol, ac yn fwy diweddar yn ystod tair blynedd yn gweithio mewn fferm "fromagerie" fechan yn Ffrainc yng nghanol yr Auvergne.

Mae Carrie bellach yn falch iawn o fod yn ôl yn Nyffryn Ogwen yn llaethdy newydd Cosyn, Llaethdy Gwyn - yr hen Eglwys Gatholig ar lan Afon Ogwen ym Methesda.

Mae yna siop fach gyda ffenestr i mewn i’r ystafell gaws, lle gallwch weld caws lactig meddal arobryn Cosyn, Brefu Bach, yn cael ei greu. Yn ogystal â blasu’r caws, gallwch hefyd ddarganfod amrywiaeth o gynnyrch lleol arall.

Ar agor bob prynhawn 2pm-5pm. Croeso i bawb. Parcio ar y safle.

Manylion Cyswllt

Enw Busnes Cosyn Cymru
Enw Cyswllt Carrie Rimes
Amseroedd Agoriadol
:
Dewisiadau Talu Apple Pay
BACS
Arian Parod
Gwiriwch
Cerdyn Credyd / Debyd
Samsung Pay
Symudol +447813463666
E-bost E-bost
Gwefan Gweld
FaceBook Gweld
Instagram Gweld

Map Lleoliad

Oriel

Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru
Cosyn Cymru

03/08/23

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors