Perllanau Afallon
Sudd afal, perllanau, tocio coed ffrwythau
Mae Perllanau Afallon yn fusnes newydd sydd wedi tyfu o’r awydd i gael mwy o ffrwythau a llysiau ffres lleol i’w bwyta yn eu tymor, ac i helpu pobl i edrych ar ôl eu coed ffrwythau eu hunain. Ac mae’n gymaint o bleser bod ynghanol coed a pherllanau mewn blodau a ffrwythau!
Dyma ein gwasanaethau perllan:
Gwneud sudd
Mi ddaw’r felin deithiol atoch chi i wneud sudd o’ch afalau neu’ch gellyg eich hunain. Yn aml mae ffrwythau i gyd yn aeddfedu’r un pryd, ac ar ôl storio digon am y gaeaf, a gwneud llwythi o gacennau, jamiau, jelis a siytnis, mae eisiau syniad be i wneud efo’r gweddill! Beth am wneud eich sudd eich hunain? Cewch un ai adael i’r sudd fynd yn seidr, neu ei gynhesu ychydig er mwyn ei gadw. Coeliwch fi, mae sudd o’ch afalau eich hun yn blasu llawer gwell na sudd siop, a gallwch benderfynu cymysgu gwahanol fathau, neu gadw nhw ar wahân a chreu sudd “single variety” eich hun.
Rydym wedi gwneud sudd o afalau a gellyg pobl Bethesda ar Ddiwrnod yr Afal ers 2017, ac mae wedi dod yn ddiwrnod poblogaidd yn nyddiadur y pentref. Cadwch eich llygaid ar agor ail hanner mis Hydref! Gallwn gynnal diwrnod gwasgu mewn cymunedau eraill hefyd, neu beth am drefnu un yn eich ysgol, grŵp, busnes, teulu...
Tocio a gofal coed ffrwythau
I gadw’ch coed ffrwythau yn ffrwythlon ac yn iach, mi ddown i docio nhw yn broffesiynol. Yn draddodiadol, mae’r gaeaf yn adeg prysur i wneud hynny i goed afalau a gellyg, ond mae tasgau tocio i’w gwneud yn y gwanwyn a’r haf hefyd. Dysgais fy nghrefft gan Ian Sturrock, Cymdeithas Perai a Seidr Cymru, a wardeiniaid perllanau yn Erddig a Ragman’s Lane Farm, ac wrth edrych ar ôl perllanau Moelyci, cyn penderfynu cynnig gwasanaeth tocio i eraill.
Mae’r gwaith yn dibynnu ar oed a math y coed, ac ar sut maen nhw wedi cael eu tocio o’r blaen. Weithiau mae angen rhai blynyddoedd i ddod â choeden yn ôl i siâp a ffrwyth, felly byddwch yn amyneddgar!
Perllanau
Efallai y cewch eich ysbrydoli i blannu’ch perllan eich hun, efallai dim ond un goeden i ddechrau. Mae perllanau yn llefydd bendigedig. Yno, gellir gweld rhod y tymhorau’n troi: blagur, blodau, ffrwythau, ac mae byd natur mewn gerddi ffrwythau neu berllanau’n arbennig iawn ac yn werth i’w warchod. Gallwn eich helpu i gynllunio safle ar gyfer eich perllan, dewis coed newydd i’w plannu, a rhoi cyngor ar sut i edrych ar ôl eich coed.
Medrwn hefyd gynnal sgyrsiau, a sesiynau hyfforddi.
Siŵr iawn y cewch chi bleser yn eich perllan ac o’ch ffrwythau!
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Judith Kaufmann |
Ffôn | +447967 115508 |
E-bost | E-bost |
Gweld |
Map Lleoliad
Oriel











01/05/20