Pecyn twristiaeth - tudalen aros

Mae Gwyliau Bro yn fenter newydd dan arweiniad y fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen. Bwriad Gwyliau Bro yw cynnig profiadau cymunedol ac amgylcheddol i ymwelwyr sy’n dod i Ddyffryn Ogwen. Byddwn yn gwneud hyn trwy ddod a phartneriaid ynghyd i ddatblygu pecynnau o brofiadau ‘Gwyliau Bro’.

Bwriad cynllun Gwyliau Bro yw cynnig tri phecyn gwyliau i ddechrau. Un yw pecyn Cynefin a Chymuned fydd yn cydredeg â Gwyl Cynefin a Chymuned, un arall yw pecyn Llwybr y Llechi a byddwn hefyd yn datblygu pecyn gwyliau chwaraeon awyr agored. Bydd gwybodaeth am y pecynnau gwyliau ar gael yma a bydd hefyd fideos a lluniau efo’r partneriaid a chwmniau fydd yn rhan o’r pecynnau gwyliau.

Rydym yn cynnig y gwyliau yma i annog twristiaeth gymunedol a chynnig profiadau lleol gwirioneddol i dwristiaid. Rydym am ddenu twristiad sydd am werthfawrogi yr hyn sydd yn gwneud Dyffryn Ogwen yn arbennig.

Rhai o’r pethau sydd yn gwneud Dyffryn Ogwen yn arbennig yw tirwedd trawiadol, hanes, cymuned arbennig, yr iaith Gymraeg, y celfyddydau, heddychiaeth, gweithgareddau, daeareg byd enwog a chynefinoedd bywyd gwyllt. Gobeithiwn y bydd Gwyliau Bro yn dod a’r holl elfennau hyn ynghyd mewn modd drawiadol a hawdd i’w ddefnyddio.

Bydd yr adran Gwyliau Bro ar y wefan yn fuan. Os hoffech fod yn rhan o’r fenter neu eisiau gwybodaeth bellach cysylltwch efo Lowri: lowri@ogwen.org neu Mel: meleri@ogwen.org.

Manylion Cyswllt

Oriel

Pecyn twristiaeth  - tudalen aros
Pecyn twristiaeth  - tudalen aros
Pecyn twristiaeth  - tudalen aros

01/02/22

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors