Y Boncathod - canu gwerin

Y Boncathod

Parti canu gwerin yw’r Boncathod, grŵp o ryw 10 o ferched yn cyfarfod bob nos Fawrth yn nhafarn y Douglas Arms i ganu hen ganeuon gwerin Cymraeg. Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu ein cerddoriaeth a’n diwylliant efo chi! Trist a melancolaidd ydi lot o’r hen ganeuon am gariad coll neu hiraeth am Gymru, ond mae ‘na rai am harddwch ein natur hefyd, a weithiau hyd yn oed rydyn ni’n cael hyd i un tafod-ym-moch a llawen. Rydyn ni’n canu’n ddigyfeiliant ac yn ceisio cymysgu hen ffefrynnau efo caneuon llai adnabyddus, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ein trefniant ein hunain.

Ar un adeg, roedd canu gwerin yn cael ei ystyried rywbeth braidd yn hen ffasiwn, ond erbyn hyn (ar ôl i ni osod trend ers 15 mlynedd!?) mae nifer o gantorion a grwpiau cerdd poblogaidd yn gwneud eu tamaid i gadw’r hen ganeuon yn fyw yn eu ffordd eu hunain.

Mi welwch chi ni o gwmpas ym mywyd cymdeithasol y dyffryn, efallai yn y Farchnad Nadolig, neu yng Nghoed Meurig yng nghanol y cerfluniau adeg Gŵyl Afon Ogwen, neu mewn digwyddiadau eraill yn y pentref. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cerddorol tu allan i Fethesda hefyd, fel er enghraifft gorymdaith Gŵyl Dewi ym Mangor, cyngerdd elusennol i ffoaduriaid Pontio, gwyliau bwyd yr ardal ac eraill. Heblaw hynny, rydyn ni hefyd yn hapus i ganu i gymdeithasau neu glybiau, naill ai mewn nosweithiau rheolaidd neu ar achlysur arbennig.

Erbyn hyn, rydym yn gwahodd ymwelwyr i ymuno â ni yn ein nosweithiau ymarfer drwy ‘airbnb experiences’, a chawsom noson hyfryd yng gnhwmni cwpl o San Ffranciso yn ddiweddar. Roedden ni wrth ein boddau cael rhannu beth o’n diwylliant efo’r ymwelwyr, a braf oedd ffeindio bod rhai o draddodiadau cerddorol yr un fath mewn rhannau eraill o’r byd!

Adeg y Nadolig, mae unrhyw roddion a gawn wrth ganu carolau yn cael eu pasio ymlaen at yr Ambiwlans Awyr am eu gwaith arbennig yn yr ardal, a dros y blynyddoedd mae pobl y pentref wedi bod mor hael ein bod wedi casglu dros mil o bunnoedd!

Gyda llaw, mae pobl yn gofyn i ni beth yw’r gwahaniaeth rhwng côr a pharti canu. Nid ydym wedi gweld diffiniad exciting eto, ond yn credu mai’r gwahaniaeth yw nid yn unig maint llai y grŵp, ond hefyd y ffaith bod ni’n ymarfer, trefnu a dehongli ein caneuon drwy gonsensws!

Address

Judith Kaufmann

Mobile 07967 115508
Email Email
FaceBook View
Y Boncathod - canu gwerin
Y Boncathod - canu gwerin
Y Boncathod - canu gwerin
Y Boncathod - canu gwerin
Y Boncathod - canu gwerin
Y Boncathod - canu gwerin
Y Boncathod - canu gwerin

02/04/20

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors