Corlannau'r Carneddau

Mae dros 3500 o gorlannau yng ngogledd-orllewin Cymru ac mae llawer ohonyn nhw i’w gweld ar y Carneddau neu yn y cyffiniau. Mae’r corlannau mawr, amlgellog, yn unigryw i’r ardal hon ac mae llawer ohonyn nhw'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif, pan ddaeth ffermio defaid ar yr ucheldiroedd yn fwy cyffredin. Mae llawer yn dal i gael eu defnyddio heddiw ac os fyddwch chi'n ddigon lwcus i gael gweld un o'r 'helfeydd' blynyddol, pan fydd y defaid yn cael eu hel oddi ar y mynydd a'u gyrru i un o'r corlannau, mae'n olygfa na fyddwch chi byth yn ei anghofio.

Rydw i wedi creu gwefan sy'n rhoi trosolwg o bwrpas, hanes a lleoliad y corlannau, ac sy'n cynnwys oriel o dros 50 o luniau o'r awyr. Ymwelwch â www.cofnodicorlannau.org ac os bydd gennych chi unrhyw sylwadau, neu wybodaeth i'w rhannu, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Nigel Beidas

Manylion

E-bost E-bost
Gwefan Gweld

01/03/23

CHWILIO SAFLE


CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors