Cyfaill Cymunedol
Yn sgil y Pandemig, rydym wedi adnabod bwlch o ran darpariaeth bwyd iachus a maethlon i’r henoed yn Nyffryn Ogwen. Yn ogystal a’r darpariaeth bwyd, rydym wedi adnabod fod unigedd wedi bod yn sialens i’r henoed yn ystod y Pandemig. Cafodd y prosoiect Cyfaill Cymunedol ei sefydlu yn 2020/21 fel canlyniad o’r Pandemig.
Dechreuodd wrth gynnig darpariaeth bwyd i drigolion Dyffryn Ogwen gan Caffi Coed y Brenin. Yn ystod y danfoniadau, mae’r Cyfaill Cymunedol yn cael sgwrs gyda’r unigolion gan rhoi cyfle iddynt gymdeithasu, ond hefyd yn rhoi cyfle i’r Cyfaill adnabod unrhyw heriau a wynebir gan yr unigolion. Ar hyn o bryd maer danfoniadau bwyd yn digwydd ar ddydd Iau.
Rydym yn cyd-weithio gyda Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd i adnabod trigolion bregus yn y gymuned a cheisio cynnig cymorth. Fe wnaeth hyn arwain at elfen arall o’r prosiect Cyfaill Cymunedol sef ymweliadau tai. Gan fod rhai yn hunan-ynysu yn y gymuned rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth cartref, bydd y Cyfaill yn ymweld a’r unigolyn unwaith yr wythnos am sgwrs a phanad, nol presgripsiwn.
Ein prif amcan yw ceisio lleihau unigedd a hyrwyddo llesiant pobl hyn sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r pandemig. Rydym yn cynnal prynhawniau coffi bob yn ail wythnos yng Nghanolfanol Cefnfaes, sydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau wahanol fel darlithoedd am hanes yr ardal, sesiynnau cerddorol a bingo. Mae trafnidiaeth ar gael i’r prynhawniau coffi yn ein cerbydau trydan. Wedi’i datblygu o’r prynhawniau coffi, rydym hefyd yn cynnal tripiau i drigolion Dyffryn Ogwen yn y cerbydau trydan ac rydym hefyd yn cyd-weithio gyda Cartref Plas Ogwen I gynnig teithiau hamdden.
Mae’r prosiect Cyfaill Cymunedol yn rhan o’r brosiect Dyffryn Gwyrdd, Partneriaeth Ogwen.
Address | 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL573AE |
Phone | +447492 290041 |







14/08/22