Darlithoedd Daucanmlwyddiant
Fel rhan o ddathliadau Daucanmlwyddiant Bethesda, penderfynwyd cynnal darlithoedd arbennig er mwyn darganfod mwy am hanes yr ardal.
Bu John Llywelyn a Lowri Williams yn trafod gwreiddiau yr ardal ac yn ôlrhain datblygiadau’r ddwy ganrif diwethaf yn hanes Bethesda. Gellir gwylio'r ddarlith gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Darlith Daucanmlwyddiant Bethesda: https://www.youtube.com/watch?v=yrbd3gdOxYc
Cafwyd darlith gan Dafydd Roberts, cyn-geidwad yr Amgueddfa Llechi, ar destun ‘Llechi’r Byd’ ymhle tynnodd Dafydd ein sylw at arloesedd Bethesda a Chwarel y Penrhyn yn niwydiant llechi’r byd. Gellir gwylio'r ddarlith gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Darlith Llechi'r Byd: https://www.youtube.com/watch?v=CckEKcrs1f0
Map Lleoliad
06/07/21