Digwyddiadau i Blant
Sesiwn celf ar-lein efo Elen o Siop Ogwen
Cynhaliwyd gweithdy crefftio ar-lein i blant gan Elen o Siop Ogwen yn ystod mis Mawrth 2021. Cafodd y plant gyfle i grefftio dyluniad arbennig ar ddarn o glai, wedi’i ysbrydoli gan Stryd Fawr Bethesda a hen batrymau llechi cerfiedig yr ardal.
Helfa Siocled
Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 10fed, cynhaliwyd helfa siocled i deuluoedd ym Mharc Meurig yn seiliedig ar thema Daucanmlwyddiant Bethesda. Roedd angen casglu’r gwahanol gliwiau a ffeithiau oedd wedi eu cuddio o gwmpas y goedwig er mwyn datrys y gair cudd. Roedd bariau siocled, wedi’u creu yn arbennig gan Lois (Cypcêcs Lois) i’w rhannu ar ddiwedd yr helfa.
06/07/21