Clwb Camera Dyffryn Ogwen
Sefydlwyd Clwb Camera Dyffryn Ogwen ar 16 Mawrth 1977 yn dilyn awgrym gan Wil Thomas (post) a G. I. Davies (deintydd). Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol ar y dyddiad hwn yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, a sefydlwyd pwyllgor y Clwb. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r Clwb yn dal i gyfarfod yn yr un lle am 7.30pm bob yn ail nos Fercher o fis Medi tan fis Mai.
Mae'r Clwb yn cynnal dwy gystadleuaeth bob blwyddyn yn ogystal â threfnu rhaglen amrywiol a difyr. Mae croeso i bawb - ifanc neu hen, camera newydd neu hen, ffilm neu ddigidol. Yn y pen draw ffotograffwyr ydyn ni i gyd, a hynny'n sy'n bwysig!
Manylion
Dewisiadau Talu | Arian Parod Gwiriwch |
Gwefan | Gweld |
Map Lleoliad
29/03/21