Gŵyl Gwenllian 2023 – Dathlu Merched y Carneddau

Cynhaliwyd Gŵyl Gwenllïan eleni ar y 10fed a’r 11eg o Fehefin fel dathliad o ferched y Carneddau. Cafwyd penwythnos yn llawn gweithgareddau, gyda rhywbeth at ddant pawb.

Roedd diwrnod llawn ar y dydd Sadwrn, gyda gweithgareddau wedi eu trefnu yng Nghanolfan Cefnfaes. Gan ddechrau yn y bore, bu nifer o deuluoedd yn mwynhau sesiwn celf, dan arweiniad Menna Thomas, gyda chinio blasus am ddim wedi’i ddarparu gan wirfoddolwyr Hwb Ogwen. Denodd ein rhaglen brynhawn Sadwrn dorf i fwynhau’r sgyrsiau a phaneli difyr. Fe gychwynnodd y prynhawn efo trafodaeth banel dan arweiniad Rebecca Hardy-Griffith gyda’r artistiaid lleol, Anna Pritchard, Rhiannon Gwyn ac Ann Catrin Evans, a fu’n trafod dylanwad cynefin ar eu gwaith. Difyr iawn oedd cael gweld enghreifftiau o gelf a tecstiliau’r amrywiol yr artistiaid, a chewch chi wylio fideo o'r sgwrs yma.

I lansio prosiect newydd Partneriaeth Ogwen a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau - Lleisiau Lleol – fe gafodd fideo arbennig o sgwrs rhwng awdur enwog lleol Alys Conran a Meleri Davies ei ddangos i’r gynulleidfa lle bu Alys yn trafod ei dwy nofel a sut mae ei chynefin wedi dylanwadu ar ei gwaith. Mae fideo ar gael i wylio yma.

Yn dilyn te prynhawn gyda chynnyrch lleol sydd ar gael trwy Cadwyn Ogwen, cafwyd cyflwyniad difyr gan Angharad Tomos, yn trafod ei nofelau diweddaraf, Castell Siwgr ac Arlwy'r Sêr. Mae fideo o'r sgwrs ar gael yma. Ac i orffen y prynhawn, fe wnaeth bawb fwynhau sgwrs arbennig rhwng yr awdur nodedig lleol Manon Steffan Ros a’r llenor Annes Glyn i drafod gwaith Manon a sut mae ei magwraeth yn Nyffryn Ogwen wedi dylanwadu ar ei gyrfa a’i bywyd. Mi gewch chi fwynhau'r sgwrs yma.

Yn ffodus roedd yr haul yn gwenu dydd Sul ar gyfer y gweithgareddau awyr agored, gan ddechrau gyda thaith feiciau dan arweiniad Elinor Elis-Williams. Cynhaliodd Gerddi Ffrancon sesiwn ioga teulu efo Leisa Mererid yn seiliedig ar ei llyfrau sy'n cyflwyno ioga i blant. Yn y p’nawn, bu Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn arwain criw ar daith gerdded Moel Faban, gan dynnu sylw at hanes a natur. Cafodd y grŵp amser i fyfyrio ar y golygfeydd anhygoel a defnyddio gwyddiau bach i ddal eu hargraffiadau.

I gloi dydd Sul, arweiniodd y Parch Sara Roberts bererindod fer o’r llyfrgell planhigion yn Gerlan i ffynnon Llechid, gan fyfyrio ar Santes Llechid a merched y Carneddau.

Hoffai Partneriaeth Ogwen ddiolch i’r holl sefydliadau, partneriaid a gwirfoddolwyr a wnaeth y penwythnos yn llwyddiant, yn enwedig Partneriaeth Tirwedd y Carneddau am noddi'r achlysur.

https://www.youtube.com/watch?v=F1eDzwvGYBI&list=PL4dXYEvA4mabgv5qQvaMXDVP14ZX9nmcw&index=1&t=5s

Manylion

06/07/23

CHWILIO SAFLE

CAEL HYSBYSIAD

Derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y dyffryn...

DIOLCH I'N PRIF NODDWYR

Cynghorau Cymuned BethesdaC.L. JonesPartneaeth OgwenWelsh SlateZip World

Primary Sponsors