Gerddi Ffrancon
Sefydlwyd Gerddi Ffrancon yn mis Mai 2021, efo anogaeth ffermydd a gerddi cymdeithasol. Mae'r safle wedi ei leoli ger Canolfan Hamdden Plas Ffrancon, gyda chymorth cwmni Byw'n Iach. Mae'r cwmni'n awyddus i wella'r safle, gwella bioamrywiaeth, a chynnig gweithgareddau awyr agored ar eu tir.
Neillteuwyd un rhan o'r safle ar gyfer rhandiroedd bach i unigolion. Dechreuodd hyn Medi 2021, ac mae 17 o bobl wedi rhentu llain o dir. Ar ochr arall y safle ceir gardd gymunedol. Mae grŵp garddio wythnosol (rhwng 3 a 5 fo bobl el arfer) yn cyfarfod yno. Maent yn tyfu llysiau, perlysiau a ffrwythau. Maent defnyddio dulliau organig gan osgoi defnyddio cemegau. Maent yn gobeithio y bydd y pridd yn elwa yn ogystal a'r bywyd gwyllt.
Mae pobl yn garddio er mwyn cael cwmni, bod allan yn yr awyr iach, tyfu bwyd blasus ac er mwyn iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r grŵp garddio yn cyfarfod brynhawn Mawrth fel arfer rhwng 2-4:30. Weithiau mae gweithgareddau ychwanegol ac mae'n braf gweld yr ardd yn cael ei defnyddio.
Mae croeso i unrhyw un fwynhau'r ardd gan ddyfrio'r planhigion os oes angen, eistedd ar y fainc, mynd am dro, edrych ar y blodau, synhwyro'r perlysiau, a blasu'r cynnyrch. Mae croeso i unrhyw un ymuno yn yr hwyl!
Mae Gerddi Ffrancon yn brosiect gan y Dyffryn Gwyrdd sy' n rhan o Bartneriaeth Ogwen.
Manylion
Symudol | 07967 115508 |
E-bost | E-bost |
Gweld |









11/07/22