Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen
Sefydlwyd Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen yn 2023, fel rhan o gydweithrediad rhwng Partneriaeth Ogwen a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.
Wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â ‘Lleisiau Carneddau’, mae Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen yn gasgliad cynyddol o hanes llafar a gasglwyd gan wirfoddolwyr trwy gyfres o gyfweliadau sain a fideo. Mae ein casgliad hefyd yn cynnwys darlithoedd, sgyrsiau a thrafodaethau amrywiol sy'n berthnasol i Ddyffryn Ogwen.
Dyma’r ddolen ar gyfer Casgliad y Werin: https://www.casgliadywerin.cymru/discover/query/Lleisiau%20lleol%20Dyffryn%20Ogwen%20
Mae llu o adnoddau ar gael i ddysgu mwy am Ddyffryn Ogwen:
Mae gwefan Hanes Dyffryn Ogwen yn cynnwys cannoedd o erthyglau hanesyddol diddorol yn ymwneud â Dyffryn Ogwen gan yr haneswyr lleol John Ll Williams a Lowri W Williams. https://hanesdyffrynogwen.wordpress.com/
Mae gwefan Corlannau gan Nigel Beidas hefyd yn adnodd diddorol iawn sy’n rhoi hanes a luniau o gorlannau defaid y Carneddau: https://www.cofnodicorlannau.org/corlannaur-carneddau-sheepfolds
Mae rhifynnau blaenorol Llais Ogwan, y papur bro, ar gael yma: http://www.llaisogwan.com/
Safle newyddion lleol yw Ogwen360 sydd wedi ei ysgrifennu gan drigolion Dyffryn Ogwen. http://Ogwen.360.cymru
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen, cysylltwch â gofod@ogwen.org

Manylion
Ffurflen Gyswllt

20/05/24