Blodeuwedd Botanics
Garddio cymdeithasol ar Y Plot
Mae Y Plot ar Fferm y Pandy (Tregarth) yn lle i ddod at ein gilydd, neu i gael tawelwch. Yn y llecyn bach hwn, mae Blodeuwedd Botanics yn cynnig gweithgareddau awyr agored a garddio i unrhyw un sydd awydd.
Mae bod allan yn yr awyr iach yn gwneud lles. Mae ein gweithgareddau i gyd yn ystyried y 5 ffordd o gadw’n iach: cysylltu ag eraill, cymryd sylw, dal i ddysgu, rhoi, a bod yn actif; i wella lles ac iechyd unigolion. Ers haf 2019, mae Y Plot ar Fferm y Pandy wedi bod ar agor 1 diwrnod yr wythnos i gynnig sesiynau garddio efo te, cacen a chwmpeini, sydd ar agor i bawb. Cynhelir nhw bob dydd Iau 11-3, a chewch ddod yma am gymaint neu cyn lleied o amser ag ydych yn ffansïo, cymryd rhan mewn gweithgarwch garddio ysgafn, neu just eistedd a gwylio a mwynhau panad o de a darn o gacen.
Drwy ein gweithgareddau, rydym yn creu gardd gynhyrchiol a hardd (ac organig), ond hefyd lle cymdeithasol a therapiwtig. Os ydych yn teimlo’n unig neu’n isel weithiau, neu fod gennych chi bethau eraill yn troi yn eich meddwl, mae hwn yn lle perffaith i chi. Ond caiff unrhyw un ddod i ail lenwi’r batris neu i gymryd brêc o fywyd prysur.
Planhigion a blodau i’w torri
Ymysg pethau eraill, rydym yn tyfu perlysiau, planhigion llysiau a blodau i’w gwerthu. Dyma sut rydym yn cyfrannu at arferion prynu mwy cynaliadwy yn y dyffryn. Dowch i weld sut mae hadau’n egino, a phlanhigion yn tyfu, neu byddwch yn rhan o’r tîm gwerthu.
Rydym hefyd yn tyfu blodau i’w torri, a chaiff pobl ddod i dorri bwnsiad o flodau lleol ffres i’w rhoi i’w ffrindiau a’u teuluoedd. Cysylltwch i wybod pryd i ddod yma.
Cyrsiau a digwyddiadau
Mae Blodeuwedd Botanics yn rhedeg cyrsiau ac yn cynnal digwyddiadau am dyfu’ch llysiau a’ch perlysiau eich hunain, blodau bwytadwy, a thyfu a bwyta’n dilyn y tymhorau. Yn achlysurol, rydym hefyd yn cynnal parti gardd i amlygu’r gorau o’r tymhorau, ac weithiau rydym yn gwneud pethau creadigol.
Mae cyrsiau a digwyddiadau yn cymryd lle naill ar ar Y Plot ei hun, neu yn y Pentwrff ar Fferm y Pandy. Rydym yn awyddus i annog pobl i roi cynnig ar dyfu rhywbeth eu hunain, hyd yn oed mor fychan â photyn bach ar sil eich ffenest cegin, a chymryd pleser o’i weld yn tyfu a datblygu. Neu just i fod allan a mwynhau’r adar yn canu!
Cadwch lygaid ar ein tudalen facebook i weld ein rhaglen am y tymor nesaf, neu ddowch ryw ddydd Iau a dweud helô.
Mi ffeindiwch ni ar Fferm y Pandy ar gyrion Tregarth, rhwng Moduron Pandy a Moelyci. Medrwch ddod i’r Plot un ai o’r dreif heibio’r garej a’r felin lifio, neu yn dilyn yr arwyddion llwyd ar hyd y llwybr sy’n mynd i’r chwith ar ôl i chi fynd drwy Dregarth a heibio’r eglwys, a just cyn Tyn Lôn, y clwstwr nesaf o dai.
Gweld |
Map Lleoliad
Oriel














30/04/20