Twristiaeth Bwyd Dyffryn Ogwen
Mae Dyffryn Ogwen yn gartref i lawer o gynhyrchwyr bwyd gwych sy’n cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch lleol o’r safon uchaf.
Beth am ymweld â Llaethdy Gwyn i weld sut mae Carrie Rimes a’i thîm yn gwneud caws Brefu Bach sydd wedi ennill gwobrau?
Mae gan Gwmni Bwyd Môr Menai ddewis gwych o fwyd môr ffres, tymhorol a chynaliadwy ym Mhorth Penrhyn ac yn cynnal barbeciws ar benwythnosau yn ystod misoedd yr haf.
Mae gan Fferm Moelyci gaffi a siop wych, yn gweini prydau a danteithion gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Gallwch hefyd alw heibio i weld Asynnod Eryri.
Mae Fferm Pandy yn fenter gymdeithasol fach â ffocws cymunedol sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau wedi’u tyfu’n naturiol yn ogystal â llety eco-dwristiaeth.
Lawrlwythwch y pamffled am fwy o fanylion.
Lawrlwythiadau
Pamffled efo gwybodaeth am lefydd twristaeth bwyd Dyffryn Ogwen
11/07/23